Amodau Peryglus Yn Ysbyty Athrofaol Y Faenor

Yr wythnos diwethaf fe wnes i holi'r Gweinidog Iechyd am adran damweiniau ac achosion brys Ysbyty Athrofaol y Faenor, lle mae pobl yn aros am 18 awr dim ond i weld meddyg. Fe ges i brofiad uniongyrchol o hyn ychydig wythnosau yn ôl. Roedd yr hyn a welais yn frawychus ac yn annerbyniol. 

Eglurais nad yw'r adran yn addas i'r diben mewn unrhyw ffordd o ystyried nifer y bobl y mae'n eu gwasanaethu ar hyn o bryd.

Nid oedd bwriad erioed i'r adran damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty'r Faenor fod yn adran o'r fath, ac mae lleoliad a maint yr ystafell yn dangos hynny'n glir iawn. 

Mae angen i Lywodraeth Cymru weithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan er mwyn mynd i'r afael â'r sefyllfa ar unwaith. Oherwydd yr amseroedd aros annerbyniol yn yr adran damweiniau ac achosion brys, mae angen newidiadau ar unwaith i'r system reoli a'r adeilad ffisegol. 

Mae'r amodau yn annerbyniol ac ni ddylai pobl yn fy rhanbarth yn Nwyrain De Cymru orfod wynebu'r amodau hyn pan fyddant mewn poen ac yn dioddef. 

Roedd yn gywilyddus nad oedd y Gweinidog Iechyd yn dangos unrhyw frys i ymateb i'r sefyllfa, ond byddaf yn cyfarfod â phennaeth y Bwrdd Iechyd i weld sut y gallwn gydweithio i sicrhau bod modd diwallu anghenion damweiniau ac achosion brys fy etholwyr yn brydlon. 

Fodd bynnag, rwyf am ychwanegu bod yr holl feddygon, nyrsys a staff yn wych.