Cefndir Laura

Mae Laura Anne Jones yn aelod o'r Ceidwadwyr Cymreig ac yn Aelod o'r Senedd dros Ranbarth Dwyrain De Cymru, yn ogystal â bod yn Weinidog Addysg Cabinet yr Wrthblaid. Yn Senedd Cymru, mae Laura'n eistedd ar y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a'r Pwyllgor Rhanbarthau Ewropeaidd, ac yn cadeirio’r Grŵp Trawsbleidiol ar Chwaraeon.

Yn ferch ffarm, cafodd Laura ei geni ym Mrynbuga a'i haddysgu yn Ysgol Gyfun Caerllion ac wedyn Prifysgol Plymouth lle bu'n astudio Gwleidyddiaeth.

Yn dilyn hyn, etholwyd Laura yn Gynghorydd Sir dros Wyesham yn Nhrefynwy yn 2017 lle cafodd y fraint o'i phenodi'n Hyrwyddwr Lluoedd Arfog y Sir ac yn Is-Gadeirydd y Pwyllgor Dethol Plant a Phobl Ifanc. Yn y rolau hyn, cymerodd ddiddordeb mawr mewn codi lefelau cyrhaeddiad a chynyddu cyfleoedd i blant bregus y rhanbarth, ochr yn ochr â chynyddu'r cymorth i gyn-filwyr y lluoedd arfog

Yn 2003, a hithau ond yn 21 oed, cafodd Laura ei hethol i gynrychioli pobl Dwyrain De Cymru yn y Cynulliad Cenedlaethol, ac yn y cyfnod hwnnw, bu'n Weinidog yr Wrthblaid dros Chwaraeon.

Ar ôl dychwelyd ym mis Gorffennaf 2020, fel AS ar gyfer Dwyrain De Cymru, fe'i penodwyd i Gabinet Gwrthblaid y Senedd yn Weinidog yr Wrthblaid dros Gydraddoldeb, Plant a Phobl Ifanc.

Yn 2021, ailetholwyd Laura yn ôl i Senedd Cymru, gan barhau â'i rôl fel Aelod Ceidwadol y Senedd dros Ddwyrain De Cymru. Fodd bynnag, yn y chweched Senedd hwn, cafodd Laura rôl Gweinidog Addysg yr Wrthblaid. 

Mae Laura yn cefnogi ystod eang o weithgareddau cymunedol lleol yn Nwyrain De Cymru. Yn ystod pandemig y coronafeirws, bu'n cynnal sawl grŵp cymorth er mwyn helpu teuluoedd bregus a rhai oedd yn cysgodi. Yn gefnogwr chwaraeon brwd, mae Laura yn cefnogi pob math o glybiau chwaraeon lleol, gan gynnwys pêl-droed iau.