Cefnogi Twristiaeth Cymru

Y mis hwn, pleidleisiais i gefnogi ac i sefyll gyda diwydiant twristiaeth Cymru yn y Senedd drwy bleidleisio yn erbyn y Dreth Twristiaeth.

Mae'r diwydiant, sydd eisoes wedi cael ei daro mor galed gan y pandemig, yn cael ei ddinistrio gan Lywodraeth Lafur Cymru.

Rydyn ni eisiau annog ac mae angen i ni annog pobl i aros yng Nghymru ac i gymryd eu gwyliau yn y wlad hon, nid yn unig am resymau amgylcheddol, ond hefyd er mwyn ysgogi ein heconomi ac i ddiogelu busnesau lleol. Felly, mewn cyfnod o argyfwng economaidd, pan fo llawer yn ein sector twristiaeth wedi cael eu heffeithio'n ddifrifol gan y pandemig a'r argyfwng economaidd, mae angen i ni gefnogi ein busnesau.

Bydd y dreth hon yn cosbi'r sector twristiaeth a does dim bwriad i'r arian sy'n cael ei godi gan y Llywodraeth hon fynd yn ôl i'r sector twristiaeth. Mae hon yn dreth mae arbenigwyr yn y diwydiant fel Jim Jones, prif swyddog twristiaeth y Gogledd, yn gresynu ati, gan ddweud:

'Byddai treth ar dwristiaeth yn gam hynod ddinistriol a fyddai'n niweidio diwydiant sydd eisoes yn cael trafferthion ar ôl cael ei effeithio'n ddifrifol gan y pandemig'.
 
Allwn ni ddim mabwysiadu ymagwedd sydd wedi cael effaith niweidiol mewn llawer o wledydd ar draws y byd.

Rhaid i ni gael eglurder ynglŷn â phwy fyddai'n cael ei eithrio o'r dreth twristiaeth, a thryloywder o ran ble mae'r arian yn mynd.