Roeddwn wrth fy modd yn mynychu 'Caffi Cymunedol Rhaglan' unwaith eto gyda'r Cynghorydd lleol Penny Jones er mwyn cyfarfod â thrigolion lleol a mwynhau'r bwyd blasus sy'n cael ei baratoi gan y gwirfoddolwyr.
Roedd y caffi yn llawn dop heddiw ac roedd yr awyrgylch yn gynnes ac yn fywiog. Mae’n ased cymunedol gwych, sy'n rhoi cyfle i'r rhai sy'n byw ar eu pennau eu hunain gyfarfod ag eraill a gwneud ffrindiau newydd.
Llongyfarchiadau mawr i un o'r trigolion lleol, Brenda Miles, sydd wedi codi’r swm sylweddol o £845 at Ysbyty Great Ormond Street, a fu'n gofalu mor dda am ei hŵyr pan oedd yno oherwydd clefyd prin o'r enw Clefyd Attic.
Byddaf yn ceisio helpu i godi proffil y clefyd hwn a phwyso am fwy o waith ymchwil i'r cyflwr yng Nghymru wrth symud ymlaen.