![LAJ](/sites/cymraeg.lauraannejones.wales/files/styles/gallery_large/public/news-gallery/TR2.jpg?itok=5ycsfEvx)
Roeddwn wrth fy modd yn ymweld â chwmni rhagorol Airbus yn y Gogledd y mis hwn.
Airbus yw'r cwmni awyrofod masnachol mwyaf yn y DU, yn ogystal ag allforiwr awyrofod sifil mwyaf y wlad.
Roedd yn braf iawn cael cyfle i wylio holl gamau cynhyrchu adenydd awyrennau ac ymweld â Chanolfan Ymchwil a Datblygu ac Arloesi Airbus a Phrifysgol Sheffield ar y safle.
Hefyd, roedd yn ddiddorol iawn clywed am brentisiaethau Airbus gan y prentisiaid eu hunain a chlywed am yr amrywiaeth eang iawn o swyddi yno. Mae cwmni Airbus yn cynnig cyfleoedd uwchsgilio rhagorol i'w weithwyr cyflogedig, sydd, heb os, yn cyfrannu at ei lwyddiant.
Roedd hwn yn ymweliad ardderchog a oedd yn cynnig sawl syniad posibl ar gyfer datblygu ein cynnig prentisiaethau ledled Cymru, gan ddenu busnesau i Gymru a mwy.