Roedd yn wych gallu ymuno â'm cydweithiwr Janet Finch-Saunders AS a'r Cynghorydd Louise Emery yn Ysgol San Sior, Llandudno y mis hwn.
Roedd yna awyrgylch cadarnhaol iawn yn yr ysgol ragorol hon. Rhaid dathlu a rhannu'r entrepreneuriaeth a'r profiad ymarferol o ddysgu gydag anifeiliaid amrywiol a phrosiectau awyr agored.
Roedd gan y Pennaeth Ian Jones weledigaeth ardderchog ar gyfer yr ysgol adeg ei benodi, ac mae wedi llwyddo i'w gwireddu.
Mae gweithgareddau'r ysgol yn cynnwys cadw ieir a gwerthu eu hwyau (hon yw'r unig ysgol yn y DU sy'n gwneud hyn), cadw cychod gwenyn a dysgu gwneud mêl a'i werthu i gwsmeriaid amrywiol gan gynnwys y Brenin, cadw anifeiliaid ar dir yr ysgol, gan gynnwys ffesantod a gecoaid, a chynnal 'busnes’ yn yr ystafell ddosbarth. Mae'r ysgol hon yn rhoi cymaint i'w disgyblion.
Fel Gweinidog Addysg yr Wrthblaid, roedd yn dda hefyd siarad am yr heriau cyffredin sy'n wynebu ein hysgolion ar hyn o bryd fel cyllideb Llafur Cymru.
Diolch yn fawr iawn i'r holl ddisgyblion ac athrawon am fy anrhegion gwych! Dydw i erioed wedi gadael ysgol gyda chymaint o anrhegion! Rwy'n edrych ymlaen at wneud y cwcis heddiw gyda fy meibion!