Fe wnes i fwynhau siarad â Chlwb Rotari'r Fenni yn fawr iawn neithiwr, ar ôl cael pryd o fwyd ardderchog yng Nghlwb Golff Sir Fynwy.
Dyma grŵp o bobl wych sy'n neilltuo eu hamser i godi llawer o arian at nifer o achosion lleol a rhyngwladol, yn ogystal â threfnu digwyddiadau rhagorol – fel y rhain ym mis Mai:
Rali Hen Gerbydau a Cherbydau Ager a Hynafol yn Sir Fynwy, Cymru (abergavennysteamrally.co.uk) a Cherdded y Gamlas – Cerdded Camlas Sir Fynwy a Brycheiniog i godi arian i Feiciau Gwaed Cymru
Fe ges i lond trol o hwyl a byddwn yn argymell i unrhyw un gymryd rhan yn nigwyddiadau Clwb Rotari'r Fenni!