Roedd yn wych gallu cynnal Cynhadledd y Ceidwadwyr Cymreig yn ein rhanbarth yng Nghasnewydd eleni. Roedd yn gyfle ardderchog i dynnu sylw at ein Dinas a lleoliad gwych ICC a gwesty'r Celtic Manor.
Ddydd Gwener, fe gawsom anerchiad rhagorol, calonogol gan ein Prif Weinidog, Rishi Sunak.
Roedd hi'n Gynhadledd gadarnhaol ac optimistaidd iawn eleni. Mae'n teimlo fel bod y llanw'n troi'n ôl atom, ac mae nifer o gyhoeddiadau polisi gwych ar y gweill gan Lywodraeth y DU sy'n siŵr o wella pethau.
Felly, bydd rhaid i ni weithio ac ymgyrchu'n galed yn y cyfnod sy'n arwain at yr Etholiad Cyffredinol ac Etholiad y Senedd y flwyddyn wedyn.
Fel Ceidwadwyr, rydym wedi cyflawni llawer yn ystod ein cyfnod mewn grym, ac mae'n rhaid i ni ganolbwyntio ar ein llwyddiannau diweddaraf ac, wrth gwrs, y posibilrwydd pryderus o Lywodraeth Lafur yn San Steffan - yn enwedig un sydd am ddefnyddio gweithredoedd Aelodau Llafur Cymru o Senedd Cymru fel glasbrint ar gyfer sut i fynd ati!!
Roedd yn braf iawn cael siarad â'r Aelod Seneddol gwych Lee Anderson, sy’n chwa o awyr iach, a'r Gweinidog Diogelwch Tom Tugendhat. Rwy'n edrych ymlaen at weithio'n agos gyda'r Gweinidog gan ein bod yn gweithio yn yr un maes, sef diogelwch plant a phobol ifanc. Hefyd, roeddwn wrth fy modd yn croesawu Cadeirydd ein Plaid, Greg Hands, i Gasnewydd, yn ogystal â Richard Holden AS, y Gweinidog Ffyrdd, ac rwy'n gwybod bod rhai o Gynghorwyr Casnewydd wedi cael sgwrs ddiddorol gydag ef.
Mae'n bwysig ein bod yn cael cefnogaeth fel hyn gan ein cydweithwyr yn San Steffan.
Roedd ein Haelodau o'r Senedd, ac wrth gwrs yr Arweinydd Andrew RT Davies a'r Ysgrifennydd Gwladol, ein harwr lleol, David TC Davies, yn gwneud gwaith gwych ar y llwyfan ac mewn cyfarfodydd ymylol hefyd. Roedd yn wych clywed adborth cadarnhaol gan ein haelodau.
Roedd yn amlwg nad yw Cymru'n gallu parhau ag agenda amherthnasol Llafur. Dylem fod yn canolbwyntio ar y GIG, yr economi ac addysg – nid ar brosiectau diangen na gwthio ideolegau amhoblogaidd.
Hefyd, roedd yn wych cadeirio trafodaeth banel graff ddydd Sadwrn gyda Phrifysgolion Cymru, Sefydliad Prydeinig y Galon a'r Aelod Seneddol Ceidwadol dros Frycheiniog a Maesyfed, James Evans.
Buom yn ystyried sut i hyfforddi a chadw talent o ansawdd uchel yng Nghymru a'r angen i Lywodraeth Cymru fuddsoddi mwy mewn cyllid ymchwil er mwyn sicrhau bod Cymru'n gallu cystadlu yn fyd-eang am gyllid.
Roedd yn braf iawn cael siarad ag aelodau ledled Cymru, yn enwedig aelodau o'n rhanbarth ni.