Diolch yn fawr iawn i'r Nags Head ym Mrynbuga am gynnal digwyddiad ardderchog i Gynghorwyr y mis hwn.
Roedd yn gyfle gwych i ddwyn ynghyd rhai o'n Cynghorwyr Ceidwadol Cymreig rhagorol o Gyngor Dinas Casnewydd a Chyngor Sir Fynwy er mwyn rhannu syniadau a phrofiadau o'r ddau Gyngor.
Roedd y cyfle i rannu syniadau a phrofiadau yn ddefnyddiol iawn i’n Cynghorwyr, ac edrychaf ymlaen at drefnu digwyddiad arall yn fuan ar gyfer ein Cynghorwyr, ein Haelod Seneddol a'n Haelodau o Senedd Cymru.