Unwaith eto, roeddwn wrth fy modd yn cael y cyfle i gefnogi ein Cynghorydd gwych dros Ogledd Tŷ-du, y Cynghorydd Chris Reeks, yng Nghanolfan y Pedwar Loc ar Ddeg mewn cymhorthfa ar y cyd.
Fe gawsom gyfle i gyfarfod â llawer o'n trigolion lleol ac roedd modd i ni ddarparu cymorth yn ymwneud â materion lleol a rhanbarthol.
Rwy'n mwynhau gweithio gyda fy nghydweithwyr sy'n Gynghorwyr Ceidwadol, ac os hoffech chi wybod am ein cymhorthfa nesaf yn eich ardal chi, gallwch gysylltu â mi trwy ddefnyddio’r manylion cyswllt isod.