Fis Mai eleni fe ddathlon ni ddiwrnod hanesyddol i'n cenedl – y Coroni cyntaf ers saith deg mlynedd!
Mae'r Brenin Charles wedi ymroi i wasanaethu'r cyhoedd dros gyfnod hir yng Nghymru, ac roedd yn hyfryd iawn ymuno â llawer ohonoch ledled y rhanbarth i ddathlu'r achlysur hanesyddol hwn.
Roedd yn braf iawn gweld Bryn Terfel yn canu’n wych yn yr Abaty. Roedd yn llawn haeddu cael ei ddewis, ac roedd gwylio Bryn yn canu yn Gymraeg ar ddechrau’r seremoni yn destun balchder.
Fe ges i amser bendigedig ym Mharti'r Coroni ym Mrynbuga. Roedd awyrgylch cyffrous yno - yn llawn hwyl a cherddoriaeth! Roedd Stryd y Bont yn llawn bwyd, cynnyrch a gemau gan fusnesau lleol.
Roedd yn braf iawn gweld ein Cynghorydd lleol, Tony Kear, a'r Maer Meirion Howells, ac yn hyfryd dathlu digwyddiad mor bwysig yn ein cymuned.
Diolch yn fawr i Gyngor Tref Brynbuga, holl fusnesau Brynbuga a'r gwirfoddolwyr am greu digwyddiad mor wych.
Roeddwn i'n lwcus iawn hefyd i fynychu Parti Coroni Rhaglan yn Ystad Wledig Rhaglan a chael cyfle i gyfarfod â llawer o drigolion yn mwynhau'r bwyd barbeciw, te a sgons!
Llongyfarchiadau mawr i Ŵyl Rhaglan a Chyngor Cymuned Rhaglan am drefnu digwyddiad mor wych.
Roedd yn braf gweld perfformwyr talentog lleol fel Trickster, Penny a'r Sunshine Singers ymysg eraill.
Ar ran trigolion fy rhanbarth yn Nwyrain De Cymru, dymunaf deyrnasiad hir a gogoneddus i'r Brenin.
Duw Gadwo'r Brenin